Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 6
Gorffennaf 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(10 munud)
4 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal sydd wedi'u lleoli mewn llety heb ei reoleiddio a llety dros dro?
Gofyn i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynigion newydd ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy?
5 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
6 Cynnig i ddirymu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022
(30 munud)
NDM8031 Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.2:
Yn cytuno bod Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio'r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, a osodwyd gerbron y Senedd ar 24 Mai 2022, yn cael ei ddirymu.
7 Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Gwaharddiad ar gymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent
(30 munud)
NDM8038 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i wahardd cymalau 'dim anifeiliaid anwes' mewn llety rhent.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
a) cyflwyno cytundeb tenantiaeth safonol tebyg i gytundeb tenantiaeth enghreifftiol Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2021;
b) cynnig cyfres o fesurau a fyddai'n sicrhau nad yw perchnogion anifeiliaid anwes cyfrifol yn cael eu trin yn annheg o ganlyniad i'r math o lety y maent yn byw ynddo;
c) caniatáu mai'r sefyllfa ddiofyn gyfreithiol yw caniatáu anifeiliaid anwes mewn tai cymdeithasol a'r sector rhentu preifat, oni bai bod rheswm y gellir ei gyfiawnhau dros beidio â gwneud hynny;
d) ymestyn caniatáu anifeiliaid anwes mewn llochesi a llety i bobl ddigartref.
Cefnogwyr
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)
8 Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau o'r Senedd
(30 munud)
9 Dadl Plaid Cymru - Cynllun cymorth tanwydd y gaeaf
(30 munud)
NDM8047 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i'w wneud yn addas i'r diben wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn croesawu’r pecynnau cymorth sylweddol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw, sy’n werth cyfanswm o £380m ers Tachwedd 2021, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y cynllun cymorth tanwydd er mwyn darparu £200 tuag at filiau ynni nad oes gofyn ei ad-dalu, a £177m ar gyfer y cynllun cymorth costau byw.
2. Yn nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu’n llwyr â mynd i’r afael yn briodol â’r argyfwng hwn, ac wedi methu ag amgyffred pa mor ddifrifol yw ei effaith ar bobl ledled Cymru.
3. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu’r cynlluniau cymorth tanwydd presennol yn barhaus ynghyd ag ymyriadau posibl i’r dyfodol.
Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwarantu bod unrhyw newidiadau i'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael eu gwneud cyn yr hydref er mwyn sicrhau bod y taliad yn cyrraedd cymaint o aelwydydd cymwys â phosibl;
b) ehangu cymhwysedd y taliad tanwydd gaeaf i gyrraedd mwy o aelwydydd mewn angen ar incwm isel sy'n agored i niwed, fel y rhai sy'n gymwys i gael credyd pensiwn;
c) lansio ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r cynllun cymorth tanwydd gaeaf i wella ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun.
10 Dadl Plaid Cymru - Ailymuno â'r farchnad sengl
(30 munud)
NDM8048 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai'r Deyrnas Unedig ailymuno â'r farchnad sengl.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu y dylai y DU gael yr uchelgais o'r fasnach agosaf bosibl, heb wrthdaro gyda'r UE.
11 Cyfnod Pleidleisio
12 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8046 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Gorau arf, dysg: addysg fel llwybr allan o dlodi
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2022